Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 5:7-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Ac wele dalent o blwm wedi ei godi i fyny: a dyma wraig yn eistedd yng nghanol yr effa.

8. Ac efe a ddywedodd, Anwiredd yw hon. Ac efe a'i taflodd hi i ganol yr effa; a bwriodd y pwys plwm ar ei enau ef.

9. A chyfodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele ddwy wraig yn dyfod allan, a gwynt yn eu hesgyll; canys esgyll oedd ganddynt fel esgyll y ciconia: a chyfodasant yr effa rhwng y ddaear a'r nefoedd.

10. Yna y dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, I ba le y mae y rhai hyn yn myned â'r effa?

11. Dywedodd yntau wrthyf, I adeiladu iddi dŷ yng ngwlad Sinar: a hi a sicrheir, ac a osodir yno ar ei hystôl ei hun.

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 5