Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 5:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yna y troais, a chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele blyg llyfr yn ehedeg.

2. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di? A dywedais, Mi a welaf blyg llyfr yn ehedeg, a'i hyd yn ugain cufydd, a'i led yn ddeg cufydd.

3. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Dyma y felltith sydd yn myned allan ar wyneb yr holl ddaear: canys pob un a ladrato, a dorrir ymaith fel o'r tu yma, yn ei hôl hi; a phob un a dyngo, a dorrir ymaith fel o'r tu acw, yn ei hôl hi.

4. Dygaf hi allan, medd Arglwydd y lluoedd, a hi a ddaw i dŷ y lleidr, ac i dŷ y neb a dyngo i'm henw i ar gam: a hi a erys yng nghanol ei dŷ ef, ac a'i difa ef, a'i goed, a'i gerrig.

5. Yna yr angel oedd yn ymddiddan â mi, a aeth allan, ac a ddywedodd wrthyf, Cyfod yn awr dy lygaid, ac edrych beth yw hyn sydd yn myned allan.

6. A mi a ddywedais, Beth ydyw? Ac efe a ddywedodd, Effa ydyw, sydd yn myned allan. Ac efe a ddywedodd, Dyma eu gwelediad yn yr holl ddaear.

7. Ac wele dalent o blwm wedi ei godi i fyny: a dyma wraig yn eistedd yng nghanol yr effa.

8. Ac efe a ddywedodd, Anwiredd yw hon. Ac efe a'i taflodd hi i ganol yr effa; a bwriodd y pwys plwm ar ei enau ef.

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 5