Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 11:15-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cymer eto i ti offer bugail ffôl.

16. Canys wele fi yn codi bugail yn y tir, yr hwn ni ofwya y cuddiedig, ni chais yr ieuanc, ni feddyginiaetha y briwedig, a fyddo yn sefyll ni phortha; ond bwyty gig y bras, ac a ddryllia eu hewinedd hwynt.

17. Gwae yr eilun bugail, yn gadael y praidd: y cleddyf fydd ar ei fraich, ac ar ei lygad deau: ei fraich gan wywo a wywa, a'i lygad deau gan dywyllu a dywylla.

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 11