Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 11:13-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Bwrw ef i'r crochenydd: pris teg â'r hwn y'm prisiwyd ganddynt. A chymerais y deg ar hugain arian, a bwriais hwynt i dŷ yr Arglwydd, i'r crochenydd.

14. Yna mi a dorrais fy ail ffon, sef Rhwymau, i dorri y brawdoliaeth rhwng Jwda ac Israel.

15. A'r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Cymer eto i ti offer bugail ffôl.

16. Canys wele fi yn codi bugail yn y tir, yr hwn ni ofwya y cuddiedig, ni chais yr ieuanc, ni feddyginiaetha y briwedig, a fyddo yn sefyll ni phortha; ond bwyty gig y bras, ac a ddryllia eu hewinedd hwynt.

17. Gwae yr eilun bugail, yn gadael y praidd: y cleddyf fydd ar ei fraich, ac ar ei lygad deau: ei fraich gan wywo a wywa, a'i lygad deau gan dywyllu a dywylla.

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 11