Hen Destament

Testament Newydd

Sechareia 1:8-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Gwelais noswaith; ac wele ŵr yn marchogaeth ar farch coch, ac yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrtwydd y rhai oedd yn y pant; ac o'i ôl ef feirch cochion, brithion, a gwynion.

9. Yna y dywedais, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? A dywedodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi wrthyf, Mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn.

10. A'r gŵr, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, a atebodd ac a ddywedodd, Dyma y rhai a hebryngodd yr Arglwydd i ymrodio trwy y ddaear.

11. A hwythau a atebasant angel yr Arglwydd, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrt, ac a ddywedasant, Rhodiasom trwy y ddaear; ac wele yr holl ddaear yn eistedd, ac yn llonydd.

12. Ac angel yr Arglwydd a atebodd ac a ddywedodd, O Arglwydd y lluoedd, pa hyd na thrugarhei wrth Jerwsalem, a dinasoedd Jwda, wrth y rhai y digiaist y deng mlynedd a thrigain hyn?

13. A'r Arglwydd a atebodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi, â geiriau daionus, a geiriau comfforddus.

14. A'r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a ddywedodd wrthyf, Gwaedda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Deliais eiddigedd mawr dros Jerwsalem a thros Seion:

15. A digiais yn ddirfawr wrth y cenhedloedd difraw; y rhai pan ddigiais ychydig, hwythau a gynorthwyasant y niwed.

16. Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dychwelais at Jerwsalem â thrugareddau: fy nhŷ a adeiledir ynddi, medd Arglwydd y lluoedd, a llinyn a estynnir ar Jerwsalem.

17. Gwaedda eto, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Fy ninasoedd a ymehangant gan ddaioni, a'r Arglwydd a rydd gysur i Seion eto, ac a ddewis Jerwsalem eto.

18. A chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele, bedwar corn.

19. A dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn? Dywedodd yntau wrthyf, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, Israel, a Jerwsalem.

20. A'r Arglwydd a ddangosodd i mi bedwar saer hefyd.

Darllenwch bennod gyflawn Sechareia 1