9. Yr Arglwydd a ganiatao i chwi gael gorffwystra bob un yn nhŷ ei gŵr. Yna y cusanodd hi hwynt: a hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant.
10. A hwy a ddywedasant wrthi, Diau y dychwelwn ni gyda thi at dy bobl di.
11. A dywedodd Naomi, Dychwelwch, fy merched: i ba beth y deuwch gyda mi? a oes gennyf fi feibion eto yn fy nghroth, i fod yn wŷr i chwi?
12. Dychwelwch, fy merched, ewch ymaith: canys yr ydwyf fi yn rhy hen i briodi gŵr. Pe dywedwn, Y mae gennyf obaith, a bod heno gyda gŵr, ac ymddŵyn meibion hefyd;
13. A arhosech chwi amdanynt hwy, hyd oni chynyddent hwy? a ymarhosech chwi amdanynt hwy, heb wra? Nage, fy merched: canys y mae mawr dristwch i mi o'ch plegid chwi, am i law yr Arglwydd fyned i'm herbyn.
14. A hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant eilwaith: ac Orpa a gusanodd ei chwegr; ond Ruth a lynodd wrthi hi.
15. A dywedodd Naomi, Wele, dy chwaer yng nghyfraith a ddychwelodd at ei phobl, ac at ei duwiau: dychwel dithau ar ôl dy chwaer yng nghyfraith.
16. A Ruth a ddywedodd, Nac erfyn arnaf fi ymado â thi, i gilio oddi ar dy ôl di: canys pa le bynnag yr elych di, yr af finnau; ac ym mha le bynnag y lletyech di, y lletyaf finnau: dy bobl di fydd fy mhobl i, a'th Dduw di fy Nuw innau:
17. Lle y byddych di marw, y byddaf finnau farw, ac yno y'm cleddir; fel hyn y gwnelo yr Arglwydd i mi, ac fel hyn y chwanego, os dim ond angau a wna ysgariaeth rhyngof fi a thithau.
18. Pan welodd hi ei bod hi wedi ymroddi i fyned gyda hi, yna hi a beidiodd â dywedyd wrthi hi.