Hen Destament

Testament Newydd

Ruth 1:3-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ac Elimelech gŵr Naomi a fu farw; a hithau a'i dau fab a adawyd.

4. A hwy a gymerasant iddynt wragedd o'r Moabesau; enw y naill oedd Orpa, ac enw y llall, Ruth. A thrigasant yno ynghylch deng mlynedd.

5. A Mahlon a Chilion a fuant feirw hefyd ill dau; a'r wraig a adawyd yn amddifad o'i dau fab, ac o'i gŵr.

6. A hi a gyfododd, a'i merched yng nghyfraith, i ddychwelyd o wlad Moab: canys hi a glywsai yng ngwlad Moab ddarfod i'r Arglwydd ymweled â'i bobl gan roddi iddynt fara.

Darllenwch bennod gyflawn Ruth 1