Hen Destament

Testament Newydd

Ruth 1:3-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ac Elimelech gŵr Naomi a fu farw; a hithau a'i dau fab a adawyd.

4. A hwy a gymerasant iddynt wragedd o'r Moabesau; enw y naill oedd Orpa, ac enw y llall, Ruth. A thrigasant yno ynghylch deng mlynedd.

5. A Mahlon a Chilion a fuant feirw hefyd ill dau; a'r wraig a adawyd yn amddifad o'i dau fab, ac o'i gŵr.

6. A hi a gyfododd, a'i merched yng nghyfraith, i ddychwelyd o wlad Moab: canys hi a glywsai yng ngwlad Moab ddarfod i'r Arglwydd ymweled â'i bobl gan roddi iddynt fara.

7. A hi a aeth o'r lle yr oedd hi ynddo, a'i dwy waudd gyda hi: a hwy a aethant i ffordd i ddychwelyd i wlad Jwda.

8. A Naomi a ddywedodd wrth ei dwy waudd, Ewch, dychwelwch bob un i dŷ ei mam: gwneled yr Arglwydd drugaredd â chwi, fel y gwnaethoch chwi â'r meirw, ac â minnau.

9. Yr Arglwydd a ganiatao i chwi gael gorffwystra bob un yn nhŷ ei gŵr. Yna y cusanodd hi hwynt: a hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant.

10. A hwy a ddywedasant wrthi, Diau y dychwelwn ni gyda thi at dy bobl di.

11. A dywedodd Naomi, Dychwelwch, fy merched: i ba beth y deuwch gyda mi? a oes gennyf fi feibion eto yn fy nghroth, i fod yn wŷr i chwi?

12. Dychwelwch, fy merched, ewch ymaith: canys yr ydwyf fi yn rhy hen i briodi gŵr. Pe dywedwn, Y mae gennyf obaith, a bod heno gyda gŵr, ac ymddŵyn meibion hefyd;

13. A arhosech chwi amdanynt hwy, hyd oni chynyddent hwy? a ymarhosech chwi amdanynt hwy, heb wra? Nage, fy merched: canys y mae mawr dristwch i mi o'ch plegid chwi, am i law yr Arglwydd fyned i'm herbyn.

Darllenwch bennod gyflawn Ruth 1