Hen Destament

Testament Newydd

Ruth 1:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A bu, yn y dyddiau yr oedd y brawdwyr yn barnu, fod newyn yn y wlad: a gŵr o Bethlehem Jwda a aeth i ymdeithio yng ngwlad Moab, efe a'i wraig, a'i ddau fab.

2. Ac enw y gŵr oedd Elimelech, ac enw ei wraig Naomi, ac enw ei ddau fab Mahlon a Chilion, Effrateaid o Bethlehem Jwda. A hwy a ddaethant i wlad Moab, ac a fuant yno.

3. Ac Elimelech gŵr Naomi a fu farw; a hithau a'i dau fab a adawyd.

4. A hwy a gymerasant iddynt wragedd o'r Moabesau; enw y naill oedd Orpa, ac enw y llall, Ruth. A thrigasant yno ynghylch deng mlynedd.

5. A Mahlon a Chilion a fuant feirw hefyd ill dau; a'r wraig a adawyd yn amddifad o'i dau fab, ac o'i gŵr.

6. A hi a gyfododd, a'i merched yng nghyfraith, i ddychwelyd o wlad Moab: canys hi a glywsai yng ngwlad Moab ddarfod i'r Arglwydd ymweled â'i bobl gan roddi iddynt fara.

7. A hi a aeth o'r lle yr oedd hi ynddo, a'i dwy waudd gyda hi: a hwy a aethant i ffordd i ddychwelyd i wlad Jwda.

Darllenwch bennod gyflawn Ruth 1