Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 9:5-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. A chadwasant y Pasg ar y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis, yn y cyfnos, yn anialwch Sinai: yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.

6. Ac yr oedd dynion, y rhai oedd wedi eu halogi wrth gelain dyn, fel na allent gadw y Pasg ar y dydd hwnnw: a hwy a ddaethant gerbron Moses, a cherbron Aaron, ar y dydd hwnnw.

7. A'r dynion hynny a ddywedasant wrtho, Yr ydym ni wedi ein halogi wrth gorff dyn marw: paham y'n gwaherddir rhag offrymu offrwm i'r Arglwydd yn ei dymor ymysg meibion Israel?

8. A dywedodd Moses wrthynt, Sefwch, a mi a wrandawaf beth a orchmynno'r Arglwydd o'ch plegid.

9. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

10. Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan fyddo neb wedi ei halogi gan gorff marw, neu neb ohonoch neu o'ch hiliogaeth mewn ffordd bell, eto cadwed Basg i'r Arglwydd.

11. Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r ail fis. yn y cyfnos, y cadwant ef: ynghyd â bara croyw a dail chwerwon y bwytânt ef.

12. Na weddillant ddim ohono hyd y bore, ac na thorrant asgwrn ohono: yn ôl holl ddeddf y Pasg y cadwant ef.

13. A'r gŵr a fyddo glân, ac heb fod mewn taith, ac a beidio â chadw y Pasg, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl, am na offrymodd offrwm yr Arglwydd yn ei dymor: ei bechod a ddwg y gŵr hwnnw.

14. A phan ymdeithio dieithr gyda chwi, ac ewyllysio cadw Pasg i'r Arglwydd; fel y byddo deddf y Pasg a'i ddefod, felly y ceidw: yr un ddeddf fydd i chwi, sef i'r dieithr ac i'r un fydd â'i enedigaeth o'r wlad.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 9