Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 9:4-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. A llefarodd Moses wrth feibion Israel am gadw y Pasg.

5. A chadwasant y Pasg ar y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis, yn y cyfnos, yn anialwch Sinai: yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.

6. Ac yr oedd dynion, y rhai oedd wedi eu halogi wrth gelain dyn, fel na allent gadw y Pasg ar y dydd hwnnw: a hwy a ddaethant gerbron Moses, a cherbron Aaron, ar y dydd hwnnw.

7. A'r dynion hynny a ddywedasant wrtho, Yr ydym ni wedi ein halogi wrth gorff dyn marw: paham y'n gwaherddir rhag offrymu offrwm i'r Arglwydd yn ei dymor ymysg meibion Israel?

8. A dywedodd Moses wrthynt, Sefwch, a mi a wrandawaf beth a orchmynno'r Arglwydd o'ch plegid.

9. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

10. Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan fyddo neb wedi ei halogi gan gorff marw, neu neb ohonoch neu o'ch hiliogaeth mewn ffordd bell, eto cadwed Basg i'r Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 9