Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 9:13-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. A'r gŵr a fyddo glân, ac heb fod mewn taith, ac a beidio â chadw y Pasg, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl, am na offrymodd offrwm yr Arglwydd yn ei dymor: ei bechod a ddwg y gŵr hwnnw.

14. A phan ymdeithio dieithr gyda chwi, ac ewyllysio cadw Pasg i'r Arglwydd; fel y byddo deddf y Pasg a'i ddefod, felly y ceidw: yr un ddeddf fydd i chwi, sef i'r dieithr ac i'r un fydd â'i enedigaeth o'r wlad.

15. Ac ar y dydd y codwyd y tabernacl, y cwmwl a gaeodd am y tabernacl dros babell y dystiolaeth; a'r hwyr yr ydoedd ar y tabernacl megis gwelediad tân hyd y bore.

16. Felly yr ydoedd yn wastadol; y cwmwl a gaeai amdano y dydd, a'r gwelediad tân y nos.

17. A phan gyfodai'r cwmwl oddi ar y babell, wedi hynny y cychwynnai meibion Israel: ac yn y lle yr arhosai y cwmwl ynddo, yno y gwersyllai meibion Israel.

18. Wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynnai meibion Israel, ac wrth orchymyn yr Arglwydd y gwersyllent: yr holl ddyddiau yr arhosai y cwmwl ar y tabernacl, yr arhosent yn y gwersyll.

19. A phan drigai y cwmwl yn hir ar y tabernacl lawer o ddyddiau, yna meibion Israel a gadwent wyliadwriaeth yr Arglwydd, ac ni chychwynnent.

20. Ac os byddai'r cwmwl ychydig ddyddiau ar y tabernacl, wrth orchymyn yr Arglwydd y gwersyllent, ac wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynnent.

21. Hefyd os byddai'r cwmwl o hwyr hyd fore, a chyfodi o'r cwmwl y bore, hwythau a symudent: pa un bynnag ai dydd ai nos fyddai pan gyfodai'r cwmwl, yna y cychwynnent.

22. Os deuddydd, os mis, os blwyddyn fyddai, tra y trigai'r cwmwl ar y tabernacl, gan aros arno, meibion Israel a arhosent yn eu pebyll, ac ni chychwynnent: ond pan godai efe, y cychwynnent.

23. Wrth air yr Arglwydd y gwersyllent, ac wrth air yr Arglwydd y cychwynnent: felly y cadwent wyliadwriaeth yr Arglwydd, yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Moses.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 9