7. Dwy fen a phedwar ych a roddes efe i feibion Gerson, yn ôl eu gwasanaeth hwynt;
8. A phedair men ac wyth ych a roddodd efe i feibion Merari, yn ôl eu gwasanaeth hwynt, dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad.
9. Ond i feibion Cohath ni roddodd efe ddim, am fod gwasanaeth y cysegr arnynt: ar eu hysgwyddau y dygent hwnnw.
10. A'r tywysogion a offrymasant tuag at gysegru'r allor, ar y dydd yr eneiniwyd hi; a cherbron yr allor y dug y tywysogion eu rhoddion.
11. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pob tywysog ar ei ddiwrnod a offrymant eu hoffrymau, tuag at gysegru'r allor.
12. Ac ar y dydd cyntaf yr oedd yn offrymu ei offrwm, Nahson mab Aminadab, dros lwyth Jwda.
13. A'i offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl sicl y cysegr, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:
14. Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:
15. Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:
16. Un bwch geifr yn bech‐aberth:
17. Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Nahson mab Aminadab.