Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 7:48-65 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

48. Ar y seithfed dydd yr offrymodd Elisama mab Ammihud, tywysog meibion Effraim.

49. Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:

50. Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:

51. Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

52. Un bwch geifr yn bech‐aberth:

53. Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Elisama mab Ammihud.

54. Ar yr wythfed dydd yr offrymodd Gamaliel mab Pedasur, tywysog meibion Manasse.

55. Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:

56. Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:

57. Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

58. Un bwch geifr yn bech‐aberth:

59. Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Gamaliel mab Pedasur.

60. Ar y nawfed dydd yr offrymodd Abidan mab Gideoni, tywysog meibion Benjamin.

61. Ei offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:

62. Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:

63. Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

64. Un bwch geifr yn bech‐aberth:

65. Ac yn hedd‐aberth, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Abidan mab Gideoni.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 7