Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 7:13-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. A'i offrwm ef ydoedd un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain yn ôl sicl y cysegr, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:

14. Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:

15. Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

16. Un bwch geifr yn bech‐aberth:

17. Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid. Dyma offrwm Nahson mab Aminadab.

18. Ac ar yr ail ddydd yr offrymodd Nethaneel mab Suar, tywysog Issachar.

19. Efe a offrymodd ei offrwm, sef un ddysgl arian o ddeg ar hugain a chant o siclau ei phwys, un ffiol arian o ddeg sicl a thrigain, yn ôl y sicl sanctaidd, yn llawn ill dwyoedd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, yn fwyd‐offrwm:

20. Un llwy aur o ddeg sicl, yn llawn arogl‐darth:

21. Un bustach ieuanc, un hwrdd, un oen blwydd, yn offrwm poeth:

22. Un bwch geifr yn bech‐aberth:

23. Ac yn aberth hedd, dau ych, pum hwrdd, pum bwch, pum hesbwrn blwyddiaid Dyma offrwm Nethaneel mab Suar.

24. Ar y trydydd dydd yr offrymodd Elïab mab Helon, tywysog meibion Sabulon.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 7