1. Ac ar y dydd y gorffennodd Moses godi'r tabernacl, a'i eneinio a'i sancteiddio ef, a'i holl ddodrefn, yr allor hefyd a'i holl ddodrefn, a'u heneinio a'u sancteiddio hwynt;
2. Yr offrymodd tywysogion Israel, penaethiaid tŷ eu tadau, (y rhai oedd dywysogion y llwythau, ac wedi eu gosod ar y rhifedigion:)
3. A'u hoffrwm a ddygasant hwy gerbron yr Arglwydd, chwech o fenni diddos, a deuddeg o ychen; men dros bob dau dywysog, ac ych dros bob un: a cherbron y tabernacl y dygasant hwynt.
4. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
5. Cymer ganddynt, a byddant i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod; a dod hwynt i'r Lefiaid, i bob un yn ôl ei wasanaeth.
6. A chymerodd Moses y menni, a'r ychen, ac a'u rhoddodd hwynt i'r Lefiaid.
7. Dwy fen a phedwar ych a roddes efe i feibion Gerson, yn ôl eu gwasanaeth hwynt;
8. A phedair men ac wyth ych a roddodd efe i feibion Merari, yn ôl eu gwasanaeth hwynt, dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad.
9. Ond i feibion Cohath ni roddodd efe ddim, am fod gwasanaeth y cysegr arnynt: ar eu hysgwyddau y dygent hwnnw.
10. A'r tywysogion a offrymasant tuag at gysegru'r allor, ar y dydd yr eneiniwyd hi; a cherbron yr allor y dug y tywysogion eu rhoddion.