7. Ac ar fwrdd y bara dangos y taenant frethyn glas, a gosodant ar hynny y dysglau, a'r cwpanau, a'r ffiolau, a'r caeadau i gau: a bydded y bara bob amser arno.
8. A thaenant arnynt wisg o ysgarlad, a gorchuddiant hwnnw â gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ei drosolion wrtho.
9. Cymerant hefyd wisg o sidan glas, a gorchuddiant ganhwyllbren y goleuni, a'i lampau, a'i efeiliau, a'i gafnau, a holl lestri yr olew, y rhai y gwasanaethant ef â hwynt.
10. A gosodant ef a'i holl ddodrefn mewn gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ef ar drosol.
11. A thaenant frethyn glas ar yr allor aur, a gorchuddiant hi â gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ei throsolion wrthi.
12. Cymerant hefyd holl ddodrefn y gwasanaeth, y rhai y gwasanaethant â hwynt yn y cysegr, a rhoddant mewn brethyn glas, a gorchuddiant hwynt mewn gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ar drosol.
13. A thynnant allan ludw yr allor, a thaenant arni wisg borffor.
14. A rhoddant arni ei holl lestri, â'r rhai y gwasanaethant hi, sef y pedyll tân, y cigweiniau, a'r rhawiau, a'r cawgiau, ie, holl lestri'r allor; a thaenant arni orchudd o groen daearfoch, a gosodant ei throsolion wrthi.
15. Pan ddarffo i Aaron ac i'w feibion orchuddio'r cysegr, a holl ddodrefn y cysegr, pan gychwynno'r gwersyll; wedi hynny deued meibion Cohath i'w dwyn hwynt: ond na chyffyrddant â'r hyn a fyddo cysegredig, rhag iddynt farw. Dyma faich meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod.
16. Ac i swydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad y perthyn olew y goleuni, a'r arogl‐darth peraidd, a'r bwyd‐offrwm gwastadol, ac olew yr eneiniad, a goruchwyliaeth yr holl dabernacl, a'r hyn oll fydd ynddo, yn y cysegr, ac yn ei ddodrefn.
17. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,
18. Na thorrwch ymaith lwyth tylwyth y Cohathiaid o blith y Lefiaid:
19. Ond hyn a wnewch iddynt, fel y byddont fyw, ac na fyddont feirw, pan nesânt at y pethau sancteiddiolaf: Aaron a'i feibion a ânt i mewn, ac a'u gosodant hwy bob un ar ei wasanaeth ac ar ei glud.
20. Ond nac ânt i edrych pan fydder yn gorchuddio'r hyn sydd gysegredig, rhag marw ohonynt.