Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 4:12-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Cymerant hefyd holl ddodrefn y gwasanaeth, y rhai y gwasanaethant â hwynt yn y cysegr, a rhoddant mewn brethyn glas, a gorchuddiant hwynt mewn gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ar drosol.

13. A thynnant allan ludw yr allor, a thaenant arni wisg borffor.

14. A rhoddant arni ei holl lestri, â'r rhai y gwasanaethant hi, sef y pedyll tân, y cigweiniau, a'r rhawiau, a'r cawgiau, ie, holl lestri'r allor; a thaenant arni orchudd o groen daearfoch, a gosodant ei throsolion wrthi.

15. Pan ddarffo i Aaron ac i'w feibion orchuddio'r cysegr, a holl ddodrefn y cysegr, pan gychwynno'r gwersyll; wedi hynny deued meibion Cohath i'w dwyn hwynt: ond na chyffyrddant â'r hyn a fyddo cysegredig, rhag iddynt farw. Dyma faich meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod.

16. Ac i swydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad y perthyn olew y goleuni, a'r arogl‐darth peraidd, a'r bwyd‐offrwm gwastadol, ac olew yr eneiniad, a goruchwyliaeth yr holl dabernacl, a'r hyn oll fydd ynddo, yn y cysegr, ac yn ei ddodrefn.

17. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd,

18. Na thorrwch ymaith lwyth tylwyth y Cohathiaid o blith y Lefiaid:

19. Ond hyn a wnewch iddynt, fel y byddont fyw, ac na fyddont feirw, pan nesânt at y pethau sancteiddiolaf: Aaron a'i feibion a ânt i mewn, ac a'u gosodant hwy bob un ar ei wasanaeth ac ar ei glud.

20. Ond nac ânt i edrych pan fydder yn gorchuddio'r hyn sydd gysegredig, rhag marw ohonynt.

21. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,

22. Cymer nifer meibion Gerson hefyd, trwy dŷ eu tadau, wrth eu teuluoedd;

23. O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, y rhifi hwynt; pob un a ddêl i ddwyn swydd, i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod.

24. Dyma weinidogaeth tylwyth y Gersoniaid, o wasanaeth ac o glud.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 4