1. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
2. Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddeloch chwi i dir Canaan, (dyma'r tir a syrth i chwi yn etifeddiaeth, sef gwlad Canaan a'i therfynau,)
3. A'ch tu deau fydd o anialwch Sin, gerllaw Edom: a therfyn y deau fydd i chwi o gwr y môr heli tua'r dwyrain.
4. A'ch terfyn a amgylchyna o'r deau i riw Acrabbim, ac a â trosodd i Sin; a'i fynediad allan fydd o'r deau i Cades‐Barnea, ac a â allan i Hasar‐Adar, a throsodd i Asmon:
5. A'r terfyn a amgylchyna o Asmon i afon yr Aifft; a'i fynediad ef allan a fydd tua'r gorllewin.
6. A therfyn y gorllewin fydd y môr mawr i chwi; sef y terfyn hwn fydd i chwi yn derfyn gorllewin.
7. A hwn fydd terfyn y gogledd i chwi: o'r môr mawr y tueddwch i fynydd Hor.
8. O fynydd Hor y tueddwch nes dyfod i Hamath; a mynediaid y terfyn fydd i Sedad.
9. A'r terfyn a â allan tua Siffron; a'i ddiwedd ef fydd yn Hasar‐Enan: hwn fydd terfyn y gogledd i chwi.
10. A therfynwch i chwi yn derfyn y dwyrain o Hasar‐Enan i Seffam.
11. Ac aed y terfyn i waered o Seffam i Ribla, ar du dwyrain Ain; a disgynned y terfyn, ac aed hyd ystlys môr Cinereth tua'r dwyrain.
12. A'r terfyn a â i waered tua'r Iorddonen; a'i ddiwedd fydd y môr heli. Dyma'r tir fydd i chwi a'i derfynau oddi amgylch.
13. A gorchmynnodd Moses i feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma'r tir a rennwch yn etifeddiaethau wrth goelbren, yr hwn a orchmynnodd yr Arglwydd ei roddi i'r naw llwyth, ac i'r hanner llwyth.
14. Canys cymerasai llwyth meibion Reuben yn ôl tŷ eu tadau, a llwyth meibion Gad yn ôl tŷ eu tadau, a hanner llwyth meibion Gad yn ôl tŷ eu tadau, a hanner llwyth Manasse, cymerasant, meddaf, eu hetifeddiaeth.
15. Dau lwyth a hanner llwyth a gymerasant eu hetifeddiaeth o'r tu yma i'r Iorddonen, yn agos i Jericho, tua'r dwyrain a chodiad haul.
16. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
17. Dyma enwau y gwŷr a rannant y tir yn etifeddiaethau i chwi: Eleasar yr offeiriad, a Josua mab Nun.
18. Ac un pennaeth o bob llwyth a gymerwch, i rannu y tir yn etifeddiaethau.