6. A chychwynasant o Succoth, a gwersyllasant yn Etham, yr hon sydd yng nghwr yr anialwch.
7. A chychwynasant o Etham, a throesant drachefn i Pi‐hahiroth, yr hon sydd o flaen Baal‐Seffon; ac a wersyllasant o flaen Migdol.
8. A chychwynasant o Pi‐hahiroth, ac a aethant trwy ganol y môr i'r anialwch; a cherddasant daith tri diwrnod yn anialwch Etham, a gwersyllasant ym Mara.
9. A chychwynasant o Mara, a daethant i Elim; ac yn Elim yr ydoedd deuddeg o ffynhonnau dwfr, a deg a thrigain o balmwydd; a gwersyllasant yno.
10. A chychwynasant o Elim, a gwersyllasant wrth y môr coch.
11. A chychwynasant oddi wrth y môr coch, a gwersyllasant yn anialwch Sin.
12. Ac o anialwch Sin y cychwynasant, ac y gwersyllasant yn Doffca.
13. A chychwynasant o Doffca, a gwersyllasant yn Alus.
14. A chychwynasant o Alus, a gwersyllasant yn Reffidim, lle nid oedd dwfr i'r bobl i'w yfed.
15. A chychwynasant o Reffidim, a gwersyllasant yn anialwch Sinai.
16. A chychwynasant o anialwch Sinai, a gwersyllasant yn Cibroth‐Hattaafa.
17. A chychwynasant o Cibroth‐Hattaafa, a gwersyllasant yn Haseroth.