33. A chychwynasant o Hor‐hagidgad, a gwersyllasant yn Jotbatha.
34. A chychwynasant o Jotbatha, a gwersyllasant yn Ebrona.
35. A chychwynasant o Ebrona, a gwersyllasant yn Esion‐Gaber.
36. A chychwynasant o Esion‐Gaber, a gwersyllasant yn anialwch Sin; hwnnw yw Cades.
37. A chychwynasant o Cades, a gwersyllasant ym mynydd Hor, yng nghwr tir Edom.
38. Ac Aaron yr offeiriad a aeth i fyny i fynydd Hor, wrth orchymyn yr Arglwydd; ac a fu farw yno, yn y ddeugeinfed flwyddyn wedi dyfod meibion Israel allan o dir yr Aifft, yn y pumed mis, ar y dydd cyntaf o'r mis.
39. Ac Aaron oedd fab tair blwydd ar hugain a chant pan fu farw ym mynydd Hor.
40. A'r brenin Arad, y Canaanead, yr hwn oedd yn trigo yn y deau yn nhir Canaan, a glybu am ddyfodiad meibion Israel.
41. A chychwynasant o fynydd Hor, a gwersyllasant yn Salmona.
42. A chychwynasant o Salmona, a gwersyllasant yn Punon,
43. A chychwynasant o Punon, a gwersyllasant yn Oboth.