Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 33:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Dyma deithiau meibion Israel, y rhai a ddaethant allan o dir yr Aifft, yn eu lluoedd, dan law Moses ac Aaron.

2. A Moses a ysgrifennodd eu mynediad hwynt allan yn ôl eu teithiau, wrth orchymyn yr Arglwydd: a dyma eu teithiau hwynt yn eu mynediad allan.

3. A hwy a gychwynasant o Rameses yn y mis cyntaf, ar y pymthegfed dydd o'r mis cyntaf: trannoeth wedi'r Pasg yr aeth meibion Israel allan â llaw uchel yng ngolwg yr Eifftiaid oll.

4. (A'r Eifftiaid oedd yn claddu pob cyntaf‐anedig, y rhai a laddasai yr Arglwydd yn eu mysg; a gwnaethai yr Arglwydd farn yn erbyn eu duwiau hwynt hefyd.)

5. A meibion Israel a gychwynasant o Rameses, ac a wersyllasant yn Succoth.

6. A chychwynasant o Succoth, a gwersyllasant yn Etham, yr hon sydd yng nghwr yr anialwch.

7. A chychwynasant o Etham, a throesant drachefn i Pi‐hahiroth, yr hon sydd o flaen Baal‐Seffon; ac a wersyllasant o flaen Migdol.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 33