37. A meibion Reuben a adeiladasant Hesbon, Eleale, a Chiriathaim;
38. Nebo hefyd, a Baalâmeon, (wedi troi eu henwau,) a Sibma: ac a enwasant enwau ar y dinasoedd a adeiladasant.
39. A meibion Machir mab Manasse a aethant i Gilead, ac a'i henillasant hi, ac a yrasant ymaith yr Amoriaid oedd ynddi.
40. A rhoddodd Moses Gilead i Machir mab Manasse; ac efe a drigodd ynddi.