24. Adeiledwch i chwi ddinasoedd i'ch plant, a chorlannau i'ch defaid; a gwnewch yr hyn a ddaeth allan o'ch genau.
25. A llefarodd meibion Gad a meibion Reuben wrth Moses, gan ddywedyd, Dy weision a wnânt megis y mae fy arglwydd yn gorchymyn.
26. Ein plant, ein gwragedd, ein hanifeiliaid a'n holl ysgrubliaid, fyddant yma yn ninasoedd Gilead.
27. A'th weision a ânt drosodd o flaen yr Arglwydd i'r rhyfel, pob un yn arfog i'r filwriaeth, megis y mae fy arglwydd yn llefaru.
28. A gorchmynnodd Moses i Eleasar yr offeiriad, ac i Josua mab Nun, ac i bennauâcenedl llwythau meibion Israel, o'u plegid hwynt:
29. A dywedodd Moses wrthynt, Os meibion Gad a meibion Reuben a ânt dros yr Iorddonen gyda chwi, pob un yn arfog i'r rhyfel o flaen yr Arglwydd, a darostwng y wlad o'ch blaen; yna rhoddwch iddynt wlad Gilead yn berchenogaeth:
30. Ac onid ânt drosodd gyda chwi yn arfogion, cymerant eu hetifeddiaeth yn eich mysg chwi yng ngwlad Canaan.