18. A phob plentyn o'r benywaid y rhai ni bu iddynt a wnaethant â gŵr, cedwch yn fyw i chwi.
19. Ac arhoswch chwithau o'r tu allan i'r gwersyll saith niwrnod: pob un a laddodd ddyn, a phob un a gyffyrddodd wrth laddedig, ymlanhewch y trydydd dydd, a'r seithfed dydd, chwi a'ch carcharorion.
20. Pob gwisg hefyd, a phob dodrefnyn croen, a phob gwaith o flew geifr, a phob llestr pren, a lanhewch chwi.
21. A dywedodd Eleasar yr offeiriad wrth y rhyfelwyr y rhai a aethant i'r rhyfel, Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses:
22. Yn unig yr aur, a'r arian, y pres, yr haearn, yr alcam, a'r plwm;
23. Pob dim a ddioddefo dân, a dynnwch trwy'r tân, a glân fydd; ac eto efe a lanheir â'r dwfr neilltuaeth: a'r hyn oll ni ddioddefo dân, tynnwch trwy y dwfr yn unig.
24. A golchwch eich gwisgoedd ar y seithfed dydd, a glân fyddwch; ac wedi hynny deuwch i'r gwersyll.
25. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,
26. Cymer nifer yr ysbail a gaed, o ddyn ac o anifail, ti ac Eleasar yr offeiriad, a phennau‐cenedl y gynulleidfa:
27. A rhanna'r caffaeliad yn ddwy ran; rhwng y rhyfelwyr a aethant i'r filwriaeth, a'r holl gynulleidfa.
28. A chyfod deyrnged i'r Arglwydd gan y rhyfelwyr y rhai a aethant allan i'r filwriaeth; un enaid o bob pum cant o'r dynion, ac o'r eidionau, ac o'r asynnod, ac o'r defaid.
29. Cymerwch hyn o'u hanner hwynt, a dyro i Eleasar yr offeiriad, yn ddyrchafael‐offrwm yr Arglwydd.
30. Ac o hanner meibion Israel y cymeri un rhan o bob deg a deugain, o'r dynion, o'r eidionau, o'r asynnod, ac o'r defaid, ac o bob anifail, a dod hwynt i'r Lefiaid, y rhai ydynt yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd.
31. A gwnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
32. A'r caffaeliad, sef gweddill yr ysbail yr hon a ddygasai pobl y filwriaeth, oedd chwe chan mil a phymtheg a thrigain o filoedd o ddefaid,
33. A deuddeg a thrigain mil o eidionau,
34. Ac un fil a thrigain o asynnod,