9. Ond adduned y weddw, a'r ysgaredig, yr hyn oll a rwymo hi ar ei henaid, a saif arni.
10. Ond os yn nhŷ ei gŵr yr addunedodd, neu y rhwymodd hi rwymedigaeth ar ei henaid trwy lw;
11. A chlywed o'i gŵr, a thewi wrthi, heb beri iddi dorri: yna safed ei holl addunedau; a phob rhwym a rwymodd hi ar ei henaid, a saif.
12. Ond os ei gŵr gan ddiddymu a'u diddyma hwynt y dydd y clywo; ni saif dim a ddaeth allan o'i gwefusau, o'i haddunedau, ac o rwymedigaeth ei henaid: ei gŵr a'u diddymodd hwynt; a'r Arglwydd a faddau iddi.
13. Pob adduned, a phob rhwymedigaeth llw i gystuddio'r enaid, ei gŵr a'i cadarnha, a'i gŵr a'i diddyma.
14. Ac os ei gŵr gan dewi a dau wrthi o ddydd i ddydd; yna y cadarnhaodd efe ei holl addunedau, neu ei holl rwymedigaethau y rhai oedd arni: cadarnhaodd hwynt, pan dawodd wrthi, y dydd y clybu efe hwynt.
15. Ac os efe gan ddiddymu a'u diddyma hwynt wedi iddo glywed; yna efe a ddwg ei hanwiredd hi.
16. Dyma y deddfau a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses, rhwng gŵr a'i wraig, a rhwng tad a'i ferch, yn ei hieuenctid yn nhŷ ei thad.