Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 3:40-51 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

40. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cyfrif bob cyntaf‐anedig gwryw o feibion Israel, o fab misyriad ac uchod, a chymer rifedi eu henwau hwynt.

41. A chymer y Lefiaid i mi, (myfi yw yr Arglwydd,) yn lle holl gyntaf‐anedig meibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o anifeiliaid meibion Israel.

42. A Moses a rifodd, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo, bobcyntaf‐anedig o feibion Israel.

43. A'r rhai cyntaf‐anedig oll, o rai gwryw, dan rif eu henwau, o fab misyriad ac uchod, o'u rhifedigion hwynt, oedd ddwy fil ar hugain a dau cant a thri ar ddeg a thrigain.

44. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd,

45. Cymer y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o feibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwynt; a bydded y Lefiaid i mi: myfi yw yr Arglwydd.

46. Ac am y rhai sydd i'w prynu o'r tri ar ddeg a thrigain a deucant, o gyntaf‐anedig meibion Israel, y rhai sydd dros ben y Lefiaid;

47. Cymer bum sicl am bob pen; yn ôl sicl y cysegr y cymeri. Ugain gera fydd y sicl.

48. A dod yr arian, gwerth y rhai sydd yn ychwaneg ohonynt, i Aaron ac i'w feibion.

49. A chymerodd Moses arian y prynedigaeth, y rhai oedd dros ben y rhai a brynwyd am y Lefiaid:

50. Gan gyntaf‐anedig meibion Israel y cymerodd efe yr arian; pump a thrigain a thri chant a mil, o siclau y cysegr.

51. A Moses a roddodd arian y prynedigion i Aaron ac i'w feibion, yn ôl gair yr Arglwydd, megis y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 3