31. A'u cadwraeth hwynt fydd yr arch, a'r bwrdd, a'r canhwyllbren, a'r allorau, a llestri'r cysegr, y rhai y gwasanaethant â hwynt, a'r gaeadlen, a'i holl wasanaeth.
32. A phennaf ar benaethiaid y Lefiaid fydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad; a llywodraeth ar geidwaid cadwraeth y cysegr fydd iddo ef.
33. O Merari y daeth tylwyth y Mahliaid, a thylwyth y Musiaid: dyma dylwyth Merari.
34. A'u rhifedigion hwynt, wrth gyfrif pob gwryw, o fab misyriad ac uchod, oedd chwe mil a deucant.
35. A phennaeth tŷ tad tylwyth Merari fydd Suriel mab Abihael. Ar ystlys y tabernacl y gwersyllant tua'r gogledd.
36. Ac yng nghadwraeth meibion Merari y bydd ystyllod y tabernacl, a'i drosolion, a'i golofnau, a'i forteisiau, a'i holl offer, a'i holl wasanaeth,
37. A cholofnau'r cynteddfa o amgylch, a'u morteisiau, a'u hoelion, a'u rhaffau.
38. A'r rhai a wersyllant o flaen y tabernacl tua'r dwyrain, o flaen pabell y cyfarfod tua chodiad haul, fydd Moses, ac Aaron a'i feibion, y rhai a gadwant gadwraeth y cysegr, a chadwraeth meibion Israel: a'r dieithr a ddelo yn agos, a roddir i farwolaeth.
39. Holl rifedigion y Lefiaid, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, yn ôl gair yr Arglwydd, trwy eu teuluoedd, sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod, oedd ddwy fil ar hugain.
40. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cyfrif bob cyntaf‐anedig gwryw o feibion Israel, o fab misyriad ac uchod, a chymer rifedi eu henwau hwynt.