24. A phennaeth tŷ tad y Gersoniaid fydd Eliasaff mab Lael.
25. A chadwraeth meibion Gerson, ym mhabell y cyfarfod, fydd y tabernacl, a'r babell, ei tho hefyd, a chaeadlen drws pabell y cyfarfod,
26. A llenni'r cynteddfa, a chaeadlen drws y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y tabernacl, a'r allor o amgylch, a'i rhaffau i'w holl wasanaeth.
27. Ac o Cohath y daeth tylwyth yr Amramiaid, a thylwyth yr Ishariaid, a thylwyth yr Hebroniaid, a thylwyth yr Ussieliaid: dyma dylwyth y Cohathiaid.
28. Rhifedi yr holl wrywiaid, o fab misyriad ac uchod, oedd wyth mil a chwe chant, yn cadw cadwraeth y cysegr.
29. Teuluoedd meibion Cohath awersyllantar ystlys y tabernacl tua'r deau.
30. A phennaeth tŷ tad tylwyth y Cohathiaid fydd Elisaffan mab Ussiel.
31. A'u cadwraeth hwynt fydd yr arch, a'r bwrdd, a'r canhwyllbren, a'r allorau, a llestri'r cysegr, y rhai y gwasanaethant â hwynt, a'r gaeadlen, a'i holl wasanaeth.
32. A phennaf ar benaethiaid y Lefiaid fydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad; a llywodraeth ar geidwaid cadwraeth y cysegr fydd iddo ef.
33. O Merari y daeth tylwyth y Mahliaid, a thylwyth y Musiaid: dyma dylwyth Merari.
34. A'u rhifedigion hwynt, wrth gyfrif pob gwryw, o fab misyriad ac uchod, oedd chwe mil a deucant.
35. A phennaeth tŷ tad tylwyth Merari fydd Suriel mab Abihael. Ar ystlys y tabernacl y gwersyllant tua'r gogledd.