2. Dyma enwau meibion Aaron: Nadab y cyntaf‐anedig, ac Abihu, Eleasar, ac Ithamar.
3. Dyma enwau meibion Aaron, yr offeiriaid eneiniog, y rhai a gysegrodd efe i offeiriadu.
4. A marw a wnaeth Nadab ac Abihu gerbron yr Arglwydd, pan offrymasant dân dieithr gerbron yr Arglwydd, yn anialwch Sinai; a meibion nid oedd iddynt: ac offeiriadodd Eleasar ac Ithamar yng ngŵydd Aaron eu tad.
5. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd,
6. Nesâ lwyth Lefi, a gwna iddo sefyll gerbron Aaron yr offeiriad, fel y gwasanaethont ef.
7. A hwy a gadwant ei gadwraeth ef, a chadwraeth yr holl gynulleidfa, o flaen pabell y cyfarfod, i wneuthur gwasanaeth y tabernacl.
8. A chadwant holl ddodrefn pabell y cyfarfod, a chadwraeth meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth y tabernacl.
9. A thi a roddi'r Lefiaid i Aaron, ac i'w feibion: y rhai hyn sydd wedi eu rhoddi yn rhodd iddo ef o feibion Israel.
10. Ac urdda di Aaron a'i feibion i gadw eu hoffeiriadaeth: a'r dieithrddyn a ddelo yn agos, a roddir i farw.
11. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,
12. Ac wele, mi a gymerais y Lefiaid o blith meibion Israel, yn lle pob cyntaf‐anedig sef pob cyntaf a agoro'r groth o feibion Israel; am hynny y Lefiaid a fyddant eiddof fi:
13. Canys eiddof fi yw pob cyntaf‐anedig Ar y dydd y trewais y cyntaf‐anedig yn nhir yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntaf‐anedig yn Israel o ddyn ac anifail: eiddof fi ydynt: myfi yw yr Arglwydd.