Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 3:10-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Ac urdda di Aaron a'i feibion i gadw eu hoffeiriadaeth: a'r dieithrddyn a ddelo yn agos, a roddir i farw.

11. Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd,

12. Ac wele, mi a gymerais y Lefiaid o blith meibion Israel, yn lle pob cyntaf‐anedig sef pob cyntaf a agoro'r groth o feibion Israel; am hynny y Lefiaid a fyddant eiddof fi:

13. Canys eiddof fi yw pob cyntaf‐anedig Ar y dydd y trewais y cyntaf‐anedig yn nhir yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntaf‐anedig yn Israel o ddyn ac anifail: eiddof fi ydynt: myfi yw yr Arglwydd.

14. Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, gan ddywedyd

15. Cyfrif feibion Lefi yn ôl tŷ eu tadau, trwy eu teuluoedd: cyfrif hwynt, bob gwryw, o fab misyriad ac uchod.

16. A Moses a'u cyfrifodd hwynt wrth air yr Arglwydd, fel y gorchmynasid iddo.

17. A'r rhai hyn oedd feibion Lefi wrth eu henwau; Gerson, a Cohath, a Merari.

18. A dyma enwau meibion Gerson, yn ôl eu teuluoedd; Libni a Simei.

19. A meibion Cohath, yn ôl eu teuluoedd Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel.

20. A meibion Merari, yn ôl eu teuluoedd Mahli a Musi. Dyma deuluoedd Lefi, wrth dŷ eu tadau.

21. O Gerson y daeth tylwyth y Libniaid, a thylwyth y Simiaid: dyma deuluoedd y Gersoniaid.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 3