32. Ac ar y seithfed dydd, saith o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl.
33. A'u bwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm, gyda'r bustych, gyda'r hyrddod, a chyda'r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth eu defod:
34. Ac un bwch yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a'i ddiod‐offrwm.
35. Ar yr wythfed dydd, uchel ŵyl fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch ynddo.
36. Ond offrymwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i'r Arglwydd; un bustach, un hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl.
37. Eu bwyd‐offrwm, a'u diod‐offrwm, gyda'r bustach, a chyda'r hwrdd, a chyda'r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod:
38. Ac un bwch yn bech‐aberth: heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a'i ddiod‐offrwm.
39. Hyn a wnewch i'r Arglwydd ar eich gwyliau; heblaw eich addunedau, a'ch offrymau gwirfodd, gyda'ch offrymau poeth, a'ch offrymau bwyd, a'ch offrymau diod, a'ch offrymau hedd.