11. Ac oni bydd brodyr i'w dad; yna rhoddwch ei etifeddiaeth ef i'w gâr nesaf iddo o'i dylwyth; a meddianned hwnnw hi: a bydded hyn i feibion Israel yn ddeddf farnedig, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.
12. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dring i'r mynydd Abarim hwn, a gwêl y tir a roddais i feibion Israel.
13. Ac wedi i ti ei weled, tithau a gesglir at dy bobl, fel y casglwyd Aaron dy frawd.
14. Canys yn anialwch Sin, wrth gynnen y gynulleidfa, y gwrthryfelasoch yn erbyn fy ngair, i'm sancteiddio wrth y dwfr yn eu golwg hwynt: dyma ddwfr cynnen Cades, yn anialwch Sin.
15. A llefarodd Moses wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd,
16. Gosoded yr Arglwydd, Duw ysbrydion pob cnawd, un ar y gynulleidfa,
17. Yr hwn a elo allan o'u blaen hwynt, ac a ddelo i mewn o'u blaen hwynt, a'r hwn a'u dygo hwynt allan, ac a'u dygo hwynt i mewn; fel na byddo cynulleidfa'r Arglwydd fel defaid ni byddo bugail arnynt.
18. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cymer atat Josua mab Nun, y gŵr y mae yr ysbryd ynddo, a gosod dy law arno;
19. A dod ef i sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron yr holl gynulleidfa; a dod orchymyn iddo ef yn eu gŵydd hwynt.
20. A dod o'th ogoniant di arno ef, fel y gwrandawo holl gynulleidfa meibion Israel arno.
21. A safed gerbron Eleasar yr offeiriad, yr hwn a ofyn gyngor drosto ef, yn ôl barn Urim, gerbron yr Arglwydd: wrth ei air ef yr ânt allan, ac wrth ei air ef y deuant i mewn, efe a holl feibion Israel gydag ef, a'r holl gynulleidfa.
22. A gwnaeth Moses megis y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo: ac a gymerodd Josua, ac a barodd iddo sefyll gerbron Eleasar yr offeiriad, a cherbron yr holl gynulleidfa.
23. Ac efe a osododd ei ddwylo arno, ac a roddodd orchymyn iddo; megis y llefarasai yr Arglwydd trwy law Moses.