Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 25:13-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. A bydd iddo ef, ac i'w had ar ei ôl ef, amod o offeiriadaeth dragwyddol; am iddo eiddigeddu dros ei Dduw, a gwneuthur cymod dros feibion Israel.

14. Ac enw y gŵr o Israel, yr hwn a laddwyd, sef yr hwn a laddwyd gyda'r Fidianees, oedd Simri, mab Salu,pennaeth tŷ ei dad, o lwyth Simeon.

15. Ac enw y wraig o Midian a laddwyd, oedd Cosbi, merch Sur: pencenedl o dŷ mawr ym Midian oedd hwn.

16. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,

17. Blina'r Midianiaid, a lleddwch hwynt:

18. Canys blin ydynt arnoch trwy eu dichellion a ddychmygasant i'ch erbyn, yn achos Peor, ac yn achos Cosbi, merch tywysog Midian, eu chwaer hwynt, yr hon a laddwyd yn nydd y pla, o achos Peor.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 25