19. Ac arglwyddiaetha un o Jacob, ac a ddinistria y gweddill o'r ddinas.
20. A phan edrychodd ar Amalec, efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Dechrau y cenhedloedd yw Amalec; a'i ddiwedd fydd darfod amdano byth.
21. Edrychodd hefyd ar y Ceneaid; ac a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Cadarn yw dy annedd; gosod yr wyt dy nyth yn y graig.
22. Anrheithir y Ceneaid, hyd oni'th gaethiwo Assur.
23. Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, Och! pwy fydd byw pan wnelo Duw hyn?
24. Llongau hefyd o derfynau Cittim a orthrymant Assur, ac a orthrymant Eber; ac yntau a dderfydd amdano byth.
25. A chododd Balaam ac a aeth, ac a ddychwelodd adref: a Balac a aeth hefyd i'w ffordd yntau.