Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 23:5-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

5. A gosododd yr Arglwydd air yng ngenau Balaam; ac a ddywedodd, Dychwel at Balac, a dywed fel hyn.

6. Ac efe a ddychwelodd ato. Ac wele, efe a holl dywysogion Moab yn sefyll wrth ei boethoffrwm.

7. Ac efe a gymerodd ei ddameg, ac a ddywedodd, O Siria y cyrchodd Balac brenin Moab fyfi, o fynyddoedd y dwyrain, gan ddywedyd, Tyred, melltithia i mi Jacob; tyred, a ffieiddia Israel.

8. Pa fodd y rhegaf yr hwn ni regodd Duw? a pha fodd y ffieiddiaf yr hwn ni ffieiddiodd yr Arglwydd?

9. Canys o ben y creigiau y gwelaf ef, ac o'r bryniau yr edrychaf arno; wele bobl yn preswylio eu hun, ac heb eu cyfrif ynghyd â'r cenhedloedd.

10. Pwy a rif lwch Jacob, a rhifedi pedwaredd ran Israel? Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn, a bydded fy niwedd fel yr eiddo yntau.

11. A dywedodd Balac wrth Balaam, Beth a wnaethost i mi? I regi fy ngelynion y'th gymerais; ac wele, gan fendithio ti a'u bendithiaist.

12. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Onid yr hyn a osododd yr Arglwydd yn fy ngenau, sydd raid i mi edrych ar ei ddywedyd?

13. A dywedodd Balac wrtho ef, Tyred, atolwg, gyda myfi i le arall, lle y gwelych hwynt: oddi yno y cei weled eu cwr eithaf hwynt yn unig, ac ni chei eu gweled hwynt i gyd: rhega dithau hwynt i mi oddi yno.

14. Ac efe a'i dug ef i faes amlwg, i ben bryn; ac a adeiladodd saith allor, ac a offrymodd fustach a hwrdd ar bob allor.

15. Ac a ddywedodd wrth Balac, Saf yma wrth dy boethoffrwm, a mi a af acw i gyfarfod â'r Arglwydd.

16. A chyfarfu yr Arglwydd â Balaam; ac a osododd air yn ei enau ef, ac a ddywedodd Dychwel at Balac, a dywed fel hyn.

17. Ac efe a ddaeth ato. Ac wele efe yn sefyll wrth ei boethoffrwm, a thywysogion Moab gydag ef. A dywedodd Balac wrtho, Beth a ddywedodd yr Arglwydd?

18. Yna y cymerodd efe ei ddameg, ac a ddywedodd, Cyfod, Balac, a gwrando; mab Sippor, clustymwrando â mi.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 23