5. Ac efe a anfonodd genhadau at Balaam mab Beor, i Pethor, (yr hon sydd wrth afon tir meibion ei bobl,) i'w gyrchu ef; gan ddywedyd, Wele bobl a ddaeth allan o'r Aifft: wele, y maent yn cuddio wyneb y ddaear; ac y maent yn aros ar fy nghyfer i.
6. Yr awr hon, gan hynny, tyred, atolwg, melltithia i mi y bobl yma; canys cryfach ydynt na mi: ond odid mi allwn ei daro ef, a'u gyrru hwynt o'r tir: canys mi a wn mai bendigedig fydd yr hwn a fendithiech di, a melltigedig fydd yr hwn a felltithiech.
7. A henuriaid Moab, a henuriaid Midian, a aethant, â gwobr dewiniaeth yn eu dwylo: daethant hefyd at Balaam, a dywedasant iddo eiriau Balac.
8. A dywedodd yntau wrthynt, Lletywch yma heno; a rhoddaf i chwi ateb megis y llefaro yr Arglwydd wrthyf. A thywysogion Moab a arosasant gyda Balaam.
9. A daeth Duw at Balaam, ac a ddywedodd Pwy yw y dynion hyn sydd gyda thi?
10. A dywedodd Balaam wrth Dduw, Balac mab Sippor, brenin Moab, a ddanfonodd ataf, gan ddywedyd,
11. Wele bobl wedi dyfod allan o'r Aifft, ac yn gorchuddio wyneb y ddaear: yr awr hon tyred, rhega hwynt i mi; felly ond odid y gallaf ryfela â hwynt, a'u gyrru allan.
12. A dywedodd Duw wrth Balaam, Na ddos gyda hwynt; na felltithia'r bobl: canys bendigedig ydynt.
13. A Balaam a gododd y bore, ac a ddywedodd wrth dywysogion Balac, Ewch i'ch gwlad: oblegid yr Arglwydd a nacaodd adael i mi fyned gyda chwi.
14. A thywysogion Moab a godasant, ac a ddaethant at Balac; ac a ddywedasant, Nacaodd Balaam ddyfod gyda ni.
15. A Balac a anfonodd eilwaith fwy o dywysogion, anrhydeddusach na'r rhai hyn.
16. A hwy a ddaethant at Balaam; ac a ddywedasant wrtho, Fel hyn y dywed Balac mab Sippor; Atolwg, na luddier di rhag dyfod ataf:
17. Canys gan anrhydeddu y'th anrhydeddaf yn fawr; a'r hyn oll a ddywedech wrthyf, a wnaf: tyred dithau, atolwg, rhega i mi y bobl hyn.
18. A Balaam a atebodd ac a ddywedodd wrth weision Balac, Pe rhoddai Balac i mi arian ac aur lonaid ei dŷ, ni allwn fyned dros air yr Arglwydd fy Nuw, i wneuthur na bychan na mawr.
19. Ond, atolwg, yn awr, arhoswch chwithau yma y nos hon; fel y caffwyf wybod beth a ddywedo yr Arglwydd wrthyf yn ychwaneg.
20. A daeth Duw at Balaam liw nos, a dywedodd wrtho, Os i'th gyrchu di y daeth y dynion hyn, cyfod, dos gyda hwynt: ac er hynny y peth a lefarwyf wrthyt, hynny a wnei di.
21. Yna y cododd Balaam yn fore, ac a gyfrwyodd ei asen, ac a aeth gyda thywysogion Moab.