32. A dywedodd angel yr Arglwydd wrtho, Paham y trewaist dy asen y tair gwaith hyn? Wele, mi a ddeuthum allan yn wrthwynebydd i ti; canys cyfeiliornus yw'r ffordd hon yn fy ngolwg.
33. A'r asen a'm gwelodd; ac a giliodd rhagof y tair gwaith hyn: oni buasai iddi gilio rhagof, diau yn awr y lladdaswn di, ac a'i gadawswn hi yn fyw.
34. A Balaam a ddywedodd wrth angel yr Arglwydd, Pechais; oblegid ni wyddwn dy fod di yn sefyll ar y ffordd yn fy erbyn: ac yr awr hon, os drwg yw yn dy olwg, dychwelaf adref.
35. A dywedodd angel yr Arglwydd wrth Balaam, Dos gyda'r dynion; a'r gair a lefarwyf wrthyt, hynny yn unig a leferi. Felly Balaam a aeth gyda thywysogion Balac.
36. A chlybu Balac ddyfod Balaam: ac efe a aeth i'w gyfarfod ef i ddinas Moab; yr hon sydd ar ardal Arnon, yr hon sydd ar gwr eithaf y terfyn.
37. A dywedodd Balac wrth Balaam, Onid gan anfon yr anfonais atat i'th gyrchu? paham na ddeuit ti ataf? Oni allwn i dy wneuthur di yn anrhydeddus?
38. A dywedodd Balaam wrth Balac, Wele, mi a ddeuthum atat: gan allu a allaf fi lefaru dim yr awr hon? y gair a osodo Duw yn fy ngenau, hwnnw a lefaraf fi.
39. A Balaam a aeth gyda Balac; a hwy a ddaethant i Gaer‐Husoth.
40. A lladdodd Balac wartheg a defaid; ac a anfonodd ran i Balaam, ac i'r tywysogion oedd gydag ef.
41. A'r bore Balac a gymerodd Balaam, ac a aeth ag ef i fyny i uchelfeydd Baal; fel y gwelai oddi yno gwr eithaf y bobl.