Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 22:20-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. A daeth Duw at Balaam liw nos, a dywedodd wrtho, Os i'th gyrchu di y daeth y dynion hyn, cyfod, dos gyda hwynt: ac er hynny y peth a lefarwyf wrthyt, hynny a wnei di.

21. Yna y cododd Balaam yn fore, ac a gyfrwyodd ei asen, ac a aeth gyda thywysogion Moab.

22. A dig Duw a enynnodd, am iddo ef fyned: ac angel yr Arglwydd a safodd ar y ffordd i'w wrthwynebu ef; ac efe yn marchogaeth ar ei asen, a'i ddau lanc gydag ef.

23. A'r asen a welodd angel yr Arglwydd yn sefyll ar y ffordd, a'i gleddyf yn noeth yn ei law: a chiliodd yr asen allan o'r ffordd, ac a aeth i'r maes: a thrawodd Balaam yr asen, i'w throi i'r ffordd.

24. Ac angel yr Arglwydd a safodd ar lwybr y gwinllannoedd, a magwyr o'r ddeutu.

25. Pan welodd yr asen angel yr Arglwydd, yna hi a ymwasgodd at y fagwyr; ac a wasgodd droed Balaam wrth y fagwyr: ac efe a'i trawodd hi eilwaith.

26. Ac angel yr Arglwydd a aeth ymhellach; ac a safodd mewn lle cyfyng, lle nid oedd ffordd i gilio tua'r tu deau na'r tu aswy.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 22