Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 21:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r brenin Arad, y Canaanead, preswylydd y deau, a glybu fod Israel yn dyfod ar hyd ffordd yr ysbïwyr; ac a ryfelodd yn erbyn Israel, ac a ddaliodd rai ohonynt yn garcharorion.

2. Ac addunodd Israel adduned i'r Arglwydd, ac a ddywedodd, Os gan roi y rhoddi y bobl yma yn fy llaw, yna mi a ddifrodaf eu dinasoedd hwynt.

3. A gwrandawodd yr Arglwydd ar lais Israel; ac a roddodd y Canaaneaid yn ei law ef; ac efe a'u difrododd hwynt, a'u dinasoedd; ac a alwodd enw y lle hwnnw Horma.

4. A hwy a aethant o fynydd Hor, ar hyd ffordd y môr coch, i amgylchu tir Edom: a chyfyng ydoedd ar enaid y bobl, oherwydd y ffordd.

5. A llefarodd y bobl yn erbyn Duw, ac yn erbyn Moses, Paham y dygasoch ni o'r Aifft, i farw yn yr anialwch? canys nid oes na bara na dwfr; a ffiaidd yw gan ein henaid y bara gwael hwn.

6. A'r Arglwydd a anfonodd ymysg y bobl seirff tanllyd; a hwy a frathasant y bobl: a bu feirw o Israel bobl lawer.

7. A daeth y bobl at Moses, adywedasant Pechasom; canys llefarasom yn erbyn yr Arglwydd, ac yn dy erbyn dithau: gweddïa ar yr Arglwydd, ar yrru ohono ef y seirff oddi wrthym. A gweddïodd Moses dros y bobl.

8. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Gwna i ti sarff danllyd, a gosod ar drostan: a phawb a frather, ac a edrycho ar honno, fydd byw.

9. A gwnaeth Moses sarff bres, ac a'i gosododd ar drostan: yna os brathai sarff ŵr, ac edrych ohono ef ar y sarff bres, byw fyddai.

10. A meibion Israel a gychwynasant oddi yno, ac a wersyllasant yn Oboth.

11. A hwy a aethant o Oboth, ac a wersyllasant yng ngharneddau Abarim, yn yr anialwch, yr hwn oedd ar gyfer Moab, tua chodiad haul.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 21