Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 20:8-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Cymer y wialen, a chasgl y gynulleidfa ti ac Aaron dy frawd; ac yn eu gŵydd hwynt lleferwch wrth y graig, a hi a rydd ei dwfr: a thyn dithau iddynt ddwfr o'r graig, a dioda'r gynulleidfa a'u hanifeiliaid.

9. A Moses a gymerodd y wialen oddi gerbron yr Arglwydd, megis y gorchmynasai efe iddo.

10. A Moses ac Aaron a gynullasant y dyrfa ynghyd o flaen y graig: ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch yn awr, chwi wrthryfelwyr; Ai o'r graig hon y tynnwn i chwi ddwfr?

11. A Moses a gododd ei law, ac a drawodd y graig ddwy waith â'i wialen: a daeth dwfr lawer allan; a'r gynulleidfa a yfodd, a'u hanifeiliaid hefyd.

12. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, ac wrth Aaron, Am na chredasoch i mi, i'm sancteiddio yng ngŵydd meibion Israel: am hynny ni ddygwch y dyrfa hon i'r tir a roddais iddynt.

13. Dyma ddyfroedd Meriba; lle yr ymgynhennodd meibion Israel â'r Arglwydd, ac y sancteiddiwyd ef ynddynt.

14. A Moses a anfonodd genhadon o Cades at frenin Edom, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Israel dy frawd; Ti a wyddost yr holl flinder a gawsom ni:

15. Pa wedd yr aeth ein tadau i waered i'r Aifft, ac yr arosasom yn yr Aifft lawer o ddyddiau; ac y drygodd yr Eifftiaid ni, a'n tadau.

16. A ni a waeddasom ar yr Arglwydd; ac efe a glybu ein llef ni, ac a anfonodd angel, ac a'n dug ni allan o'r Aifft: ac wele ni yn Cades, dinas ar gwr dy ardal di.

17. Atolwg, gad i ni fyned trwy dy wlad: nid awn trwy faes, na gwinllan, ac nid yfwn ddwfr un ffynnon: priffordd y brenin a gerddwn; ni thrown ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy, nes i ni fyned allan o'th derfynau di.

18. A dywedodd Edom wrtho, Na thyred heibio i mi, rhag i mi ddyfod â'r cleddyf i'th gyfarfod.

19. A meibion Israel a ddywedasant wrtho, Ar hyd y briffordd yr awn i fyny; ac os myfi neu fy anifeiliaid a yfwn o'th ddwfr di, rhoddaf ei werth ef; yn unig ar fy nhraed yr af trwodd yn ddiniwed.

20. Yntau a ddywedodd, Ni chei fyned trwodd. A daeth Edom allan i gyfarfod ag ef, â phobl lawer, ac â llaw gref.

21. Felly Edom a nacaodd roddi ffordd i Israel trwy ei fro: am hynny Israel a drodd oddi wrtho ef.

22. A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa, a deithiasant o Cades, ac a ddaethant i fynydd Hor.

23. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron ym mynydd Hor, wrth derfyn tir Edom, gan ddywedyd,

24. Aaron a gesglir at ei bobl: ac ni ddaw i'r tir a roddais i feibion Israel; am i chwi anufuddhau i'm gair, wrth ddwfr Meriba.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 20