Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 20:13-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Dyma ddyfroedd Meriba; lle yr ymgynhennodd meibion Israel â'r Arglwydd, ac y sancteiddiwyd ef ynddynt.

14. A Moses a anfonodd genhadon o Cades at frenin Edom, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Israel dy frawd; Ti a wyddost yr holl flinder a gawsom ni:

15. Pa wedd yr aeth ein tadau i waered i'r Aifft, ac yr arosasom yn yr Aifft lawer o ddyddiau; ac y drygodd yr Eifftiaid ni, a'n tadau.

16. A ni a waeddasom ar yr Arglwydd; ac efe a glybu ein llef ni, ac a anfonodd angel, ac a'n dug ni allan o'r Aifft: ac wele ni yn Cades, dinas ar gwr dy ardal di.

17. Atolwg, gad i ni fyned trwy dy wlad: nid awn trwy faes, na gwinllan, ac nid yfwn ddwfr un ffynnon: priffordd y brenin a gerddwn; ni thrown ar y llaw ddeau nac ar y llaw aswy, nes i ni fyned allan o'th derfynau di.

18. A dywedodd Edom wrtho, Na thyred heibio i mi, rhag i mi ddyfod â'r cleddyf i'th gyfarfod.

19. A meibion Israel a ddywedasant wrtho, Ar hyd y briffordd yr awn i fyny; ac os myfi neu fy anifeiliaid a yfwn o'th ddwfr di, rhoddaf ei werth ef; yn unig ar fy nhraed yr af trwodd yn ddiniwed.

20. Yntau a ddywedodd, Ni chei fyned trwodd. A daeth Edom allan i gyfarfod ag ef, â phobl lawer, ac â llaw gref.

21. Felly Edom a nacaodd roddi ffordd i Israel trwy ei fro: am hynny Israel a drodd oddi wrtho ef.

22. A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa, a deithiasant o Cades, ac a ddaethant i fynydd Hor.

23. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron ym mynydd Hor, wrth derfyn tir Edom, gan ddywedyd,

24. Aaron a gesglir at ei bobl: ac ni ddaw i'r tir a roddais i feibion Israel; am i chwi anufuddhau i'm gair, wrth ddwfr Meriba.

25. Cymer Aaron ac Eleasar ei fab, a dwg hwynt i fyny i fynydd Hor;

26. A diosg ei wisgoedd oddi am Aaron, a gwisg hwynt am Eleasar ei fab ef: canys Aaron a gesglir at ei bobl, ac a fydd farw yno.

27. A gwnaeth Moses megis y gorchmynnodd yr Arglwydd: a hwy a aethant i fyny i fynydd Hor, yng ngŵydd yr holl gynulleidfa.

28. A diosgodd Moses oddi am Aaron ei wisgoedd, ac a'u gwisgodd hwynt am Eleasar ei fab ef: a bu farw Aaron yno ym mhen y mynydd. A disgynnodd Moses ac Eleasar o'r mynydd.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 20