4. A chymered Eleasar yr offeiriad beth o'i gwaed hi ar ei fys, a thaenelled o'i gwaed hi ar gyfer wyneb pabell y cyfarfod saith waith.
5. A llosged un yr anner yn ei olwg ef: ei chroen, a'i chig, a'i gwaed, ynghyd â'i biswail, a lysg efe.
6. A chymered yr offeiriad goed cedr, ac isop, ac ysgarlad; a bwried i ganol llosgfa yr anner.
7. A golched yr offeiriad ei wisgoedd, troched hefyd ei gnawd mewn dwfr, ac wedi hynny deued i'r gwersyll; ac aflan fydd yr offeiriad hyd yr hwyr.
8. Felly golched yr hwn a'i llosgo hi ei ddillad mewn dwfr, a golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; ac aflan fydd hyd yr hwyr.
9. A chasgled un glân ludw yr anner, a gosoded o'r tu allan i'r gwersyll mewn lle glân; a bydded yng nghadw i gynulleidfa meibion Israel, yn ddwfr neilltuaeth pechâaberth yw.
10. A golched yr hwn a gasglo ludw yr anner, ei ddillad; aflan fydd hyd yr hwyr: a bydd hyn i feibion Israel, ac i'r dieithr a ymdeithio yn eu mysg hwynt, yn ddeddf dragwyddol.
11. A gyffyrddo â chorff marw dyn, aflan fydd saith niwrnod.
12. Ymlanhaed trwy y dwfr hwnnw y trydydd dydd, a'r seithfed dydd glân fydd: ac os y trydydd dydd nid ymlanha efe, yna ni bydd efe lân y seithfed dydd.
13. Pob un a gyffyrddo â chorff marw dyn fyddo wedi marw, ac nid ymlanhao, sydd yn halogi tabernacl yr Arglwydd; a thorrir ymaith yr enaid hwnnw oddi wrth Israel: am na thaenellwyd dwfr neilltuaeth arno, aflan fydd efe; ei aflendid sydd eto arno.
14. Dyma'r gyfraith, pan fyddo marw dyn mewn pabell: pob un a ddelo i'r babell, a phob un a fyddo yn y babell, fydd aflan saith niwrnod.