2. Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, Llefara wrth feibion Israel, am ddwyn ohonynt atat anner goch berffaith‐gwbl, yr hon ni byddo anaf arni, ac nid aeth iau arni.
3. A rhoddwch hi at Eleasar yr offeiriad: a phared efe ei dwyn hi o'r tu allan i'r gwersyll; a lladded un hi ger ei fron ef.
4. A chymered Eleasar yr offeiriad beth o'i gwaed hi ar ei fys, a thaenelled o'i gwaed hi ar gyfer wyneb pabell y cyfarfod saith waith.
5. A llosged un yr anner yn ei olwg ef: ei chroen, a'i chig, a'i gwaed, ynghyd â'i biswail, a lysg efe.
6. A chymered yr offeiriad goed cedr, ac isop, ac ysgarlad; a bwried i ganol llosgfa yr anner.
7. A golched yr offeiriad ei wisgoedd, troched hefyd ei gnawd mewn dwfr, ac wedi hynny deued i'r gwersyll; ac aflan fydd yr offeiriad hyd yr hwyr.
8. Felly golched yr hwn a'i llosgo hi ei ddillad mewn dwfr, a golched hefyd ei gnawd mewn dwfr; ac aflan fydd hyd yr hwyr.
9. A chasgled un glân ludw yr anner, a gosoded o'r tu allan i'r gwersyll mewn lle glân; a bydded yng nghadw i gynulleidfa meibion Israel, yn ddwfr neilltuaeth pech‐aberth yw.