Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 19:12-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. Ymlanhaed trwy y dwfr hwnnw y trydydd dydd, a'r seithfed dydd glân fydd: ac os y trydydd dydd nid ymlanha efe, yna ni bydd efe lân y seithfed dydd.

13. Pob un a gyffyrddo â chorff marw dyn fyddo wedi marw, ac nid ymlanhao, sydd yn halogi tabernacl yr Arglwydd; a thorrir ymaith yr enaid hwnnw oddi wrth Israel: am na thaenellwyd dwfr neilltuaeth arno, aflan fydd efe; ei aflendid sydd eto arno.

14. Dyma'r gyfraith, pan fyddo marw dyn mewn pabell: pob un a ddelo i'r babell, a phob un a fyddo yn y babell, fydd aflan saith niwrnod.

15. A phob llestr agored ni byddo cadach wedi ei rwymo arno, aflan yw efe.

16. Pob un hefyd a gyffyrddo, ar wyneb y maes, ag un wedi ei ladd â chleddyf, neu ag un marw, neu ag asgwrn dyn, neu â bedd, a fydd aflan saith niwrnod.

17. Cymerant dros yr aflan o ludw llosg yr offrwm dros bechod; a rhodder ato ddwfr rhedegog mewn llestr;

18. A chymered isop, a golched un dihalogedig ef mewn dwfr, a thaenelled ar y babell, ac ar yr holl lestri, ac ar yr holl ddynion oedd yno, ac ar yr hwn a gyffyrddodd ag asgwrn, neu un wedi ei ladd, neu un wedi marw, neu fedd:

19. A thaenelled y glân ar yr aflan y trydydd dydd, a'r seithfed dydd; ac ymlanhaed efe y seithfed dydd, a golched ei ddillad, ymolched mewn dwfr, a glân fydd yn yr hwyr.

20. Ond y gŵr a haloger, ac nid ymlanhao torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg y gynulleidfa: canys efe a halogodd gysegr yr Arglwydd, ni thaenellwyd arno ddwfr y neilltuaeth; aflan yw efe.

21. A bydd iddynt yn ddeddf dragwyddol bod i'r hwn a daenello ddwfr y neilltuaeth, olchi ei ddillad; a'r hwn a gyffyrddo â dwfr y neilltuaeth, a fydd aflan hyd yr hwyr.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 19