Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 17:6-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. A llefarodd Moses wrth feibion Israel: a'u holl benaethiaid a roddasant ato wialen dros bob pennaeth, yn ôl tŷ eu tadau, sef deuddeg gwialen; a gwialen Aaron oedd ymysg eu gwiail hwynt.

7. A Moses a adawodd y gwiail gerbron yr Arglwydd, ym mhabell y dystiolaeth.

8. A thrannoeth y daeth Moses i babell y dystiolaeth: ac wele, gwialen Aaron dros dŷ Lefi a flagurasai, ac a fwriasai flagur, ac a flodeuasai flodau, ac a ddyg asai almonau.

9. A dug Moses allan yr holl wiail oddi gerbron yr Arglwydd at holl feibion Israel. Hwythau a edrychasant, ac a gymerasant bob un ei wialen ei hun.

10. A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dod wialen Aaron drachefn gerbron y dystiolaeth, i'w chadw yn arwydd i'r meibion gwrthryfelgar; fel y gwnelech i'w tuchan hwynt beidio â mi, ac na byddont feirw.

11. A gwnaeth Moses fel y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo; felly y gwnaeth efe.

12. A meibion Israel a lefarasant wrth Moses, gan ddywedyd, Wele ni yn trengi; darfu amdanom, darfu amdanom ni oll.

13. Bydd farw pob un gan nesáu a nesao i dabernacl yr Arglwydd. A wneir pen amdanom gan drengi?

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 17