6. Pan ganoch larwm yr ail waith; yna y gwersylloedd, y rhai a wersyllant tua'r deau, a gychwynnant: larwm a ganant hwy wrth eu cychwyn.
7. Ac wrth alw ynghyd y gynulleidfa, cenwch yr utgyrn; ond na chenwch larwm.
8. A meibion Aaron, yr offeiriaid, a ganant ar yr utgyrn; a byddant i chwi yn ddeddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau
9. Hefyd pan eloch i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y gorthrymwr a'ch gorthrymo chwi; cenwch larwm mewn utgyrn: yna y coffeir chwi gerbron yr Arglwydd eich Duw, ac yr achubir chwi rhag eich gelynion.
10. Ar ddydd eich llawenydd hefyd, ac ar eich gwyliau gosodedig, ac ar ddechrau eich misoedd, y cenwch ar yr utgyrn uwchben eich offrymau poeth, ac uwchben eich aberthau hedd; a byddant i chwi yn goffadwriaeth gerbron eich Duw: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.
11. A bu yn yr ail flwyddyn, ar yr ail fis, ar yr ugeinfed dydd o'r mis, gyfodi o'r cwmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth.
12. A meibion Israel a gychwynasant i'w taith o anialwch Sinai; a'r cwmwl a arhosodd yn anialwch Paran.
13. Felly y cychwynasant y waith gyntaf, wrth air yr Arglwydd trwy law Moses.
14. Ac yn gyntaf y cychwynnodd lluman gwersyll meibion Jwda yn ôl eu lluoedd: ac ar ei lu ef yr ydoedd Nahson mab Aminadab.
15. Ac ar lu llwyth meibion Issachar, Nethaneel mab Suar.
16. Ac ar lu llwyth meibion Sabulon, Elïab mab Helon.
17. Yna y tynnwyd i lawr y tabernacl; a meibion Gerson a meibion Merari a gychwynasant, gan ddwyn y tabernacl.
18. Yna y cychwynnodd lluman gwersyll Reuben yn ôl eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Elisur mab Sedeur.
19. Ac ar lu llwyth meibion Simeon, Selumiel mab Surisadai.
20. Ac ar lu llwyth meibion Gad, Eliasaff mab Deuel.