33. Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Effraim, oedd ddeugain mil a phum cant.
34. O feibion Manasse, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a oedd yn gallu myned i ryfel;
35. Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Manasse, oedd ddeuddeng mil ar hugain a dau gant.
36. O feibion Benjamin, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a oedd yn gallu myned i ryfel;
37. Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Benjamin, oedd bymtheg mil ar hugain a phedwar cant.
38. O feibion Dan, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a oedd yn gallu myned i ryfel;
39. Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Dan, oeddynt ddwy fil a thrigain a saith gant.
40. O feibion Aser, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a oedd yn gallu myned i ryfel;
41. Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Aser, oeddynt un fil a deugain a phum cant.
42. O feibion Nafftali, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a ydoedd yn gallu myned i ryfel;
43. Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Nafftali, oedd dair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.
44. Dyma'r rhifedigion, y rhai a rifodd Moses, ac Aaron, a thywysogion Israel; sef y deuddengwr, y rhai oedd bob un dros dŷ eu tadau.
45. Felly yr ydoedd holl rifedigion meibion Israel, wrth dŷ eu tadau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a'r a ydoedd yn gallu myned i ryfel yn Israel;
46. A'r holl rifedigion oedd chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain.
47. Ond y Lefiaid, trwy holl lwythau eu tadau, ni rifwyd yn eu mysg hwynt:
48. Canys llefarasai yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd,