Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 1:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A'r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, yn anialwch Sinai, ym mhabell y cyfarfod, ar y dydd cyntaf o'r ail fis, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy allan o dir yr Aifft, gan ddywedyd,

2. Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel, yn ôl eu teuluoedd, wrth dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, pob gwryw wrth eu pennau;

3. O fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel: ti ac Aaron a'u cyfrifwch hwynt yn ôl eu lluoedd.

4. A bydded gyda chwi ŵr o bob llwyth; sef y gŵr pennaf o dŷ ei dadau.

5. A dyma enwau'r gwŷr a safant gyda chwi. O lwyth Reuben; Elisur mab Sedeur.

6. O lwyth Simeon; Selumiel mab Surisadai.

7. O lwyth Jwda; Nahson mab Aminadab.

8. O lwyth Issachar; Nethaneel mab Suar.

9. O lwyth Sabulon; Elïab mab Helon.

10. O feibion Joseff: dros Effraim, Elisama mab Ammihud; dros Manasse, Gamaliel mab Pedasur.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 1