Hen Destament

Testament Newydd

Nehemeia 9:9-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Gwelaist hefyd gystudd ein tadau yn yr Aifft; a thi a wrandewaist eu gwaedd hwynt wrth y môr coch:

10. A thi a wnaethost arwyddion a rhyfeddodau ar Pharo, ac ar ei holl weision, ac ar holl bobl ei wlad ef: canys gwybuost i'r rhai hyn falchïo yn eu herbyn hwynt. A gwnaethost i ti enw, fel y gwelir y dydd hwn.

11. Y môr hefyd a holltaist o'u blaen hwynt, fel y treiddiasant trwy ganol y môr ar hyd sychdir; a'u herlidwyr a fwriaist i'r gwaelod, fel maen i ddyfroedd cryfion:

12. Ac a'u harweiniaist hwy liw dydd mewn colofn gwmwl, a lliw nos mewn colofn dân, i oleuo iddynt hwy y ffordd yr oeddynt yn myned ar hyd‐ddi.

13. Ti a ddisgynnaist hefyd ar fynydd Sinai ac a ymddiddenaist â hwynt o'r nefoedd; rhoddaist hefyd iddynt farnedigaethau uniawn, a chyfreithiau gwir, deddfau a gorchmynion daionus:

14. A'th Saboth sanctaidd a hysbysaist iddynt; gorchmynion hefyd, a deddfau, a chyfreithiau a orchmynnaist iddynt, trwy law Moses dy was:

15. Bara hefyd o'r nefoedd a roddaist iddynt yn eu newyn, a dwfr o'r graig a dynnaist iddynt yn eu syched; a thi a ddywedaist wrthynt, y deuent i etifeddu y wlad a dyngasit ar ei rhoddi iddynt.

16. Ond hwynt‐hwy a'n tadau ni a falchiasant, ac a galedasant eu gwarrau, ac ni wrandawsant ar dy orchmynion di;

17. Ac a wrthodasant wrando, ac ni chofiasant dy ryfeddodau, y rhai a wnaethit ti erddynt; caledasant hefyd eu gwarrau, a gosodasant ben arnynt i ddychwelyd i'w caethiwed yn eu cyndynrwydd: eto ti ydwyt Dduw parod i faddau, graslon, a thrugarog, hwyrfrydig i ddicter, ac aml o drugaredd, ac ni wrthodaist hwynt.

18. Hefyd, pan wnaethent iddynt lo toddedig, a dywedyd, Dyma dy dduw di yr hwn a'th ddug di i fyny o'r Aifft, a chablasent yn ddirfawr;

19. Er hynny, yn dy aml dosturiaethau, ni adewaist ti hwynt yn yr anialwch: y golofn gwmwl ni chiliodd oddi wrthynt trwy y dydd, i'w harwain hwynt ar hyd y ffordd; na'r golofn dân trwy y nos, i oleuo iddynt, ac i ddangos y ffordd y cerddent ynddi.

Darllenwch bennod gyflawn Nehemeia 9